(Scroll down for English)
Wrth i ni edrych yn ôl ar flwyddyn prysur a llwyddiannus arall mae’n amlwg bod ein cymuned yn ffynnu, diolch i waith diflino grwpiau, sefydliadau ac unigolion lleol. O ddathlu digwyddiadau pwysig i wella ein hardaloedd cyhoeddus, dyma gipolwg i chi ar rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn ddiwethaf.
Seremoni Sul y Cofio ac Adnewyddu Cofeb y Rhyfel
Roedd Seremoni Sul y Cadoediad yn ddigwyddiad teimladwy, gyda’r gymuned yn dod ynghyd i anrhydeddu’r rheini a wasanaethodd ac a gollodd eu bywydau. Yn dilyn cau’r gangen leol o’r Lleng Brydeinig, rhoddodd N & D Thompson y safle yn rodd i Gyngor Cymuned Ystalyfera. Ni sy’n gyfrifol am safle’r senotaff ac rydym yn bwriadu adnewyddu ac ehangu’r ardal, gan sicrhau y bydd yn dal yn deyrnged anrhydeddus i’n harwyr lleol am genedlaethau.
Goleuadau ac Addurniadau Nadolig
Eleni, darparodd y Cyngor oleuadau trydan Nadolig drwy’r ardal – Stryd Commercial a Heol y Gurnos yn Ystalyfera, ar goed llai o faint, ar arwyddion ac ar goed mwy o faint mewn lleoliadau allweddol (hen Ysgol Godre’r Graig, Lawnt Graig Newydd, Cilmaengwyn, Parc Penyrallt). Roedd yr addurniadau’n codi ysbryd pawb dros dymor y Nadolig.
Ar ben hyn darparwyd baneri i ddathlu Dydd Gwyl Dewi ac arddangoswyd y pabi coch adeg Sul y Cofio. Mae’n rhan o’n ymlyniad i gofio dyddiadau arbennig yn ein calendr a’n hetifeddiaeth.
Taith Siôn Corn
Roedd taith flynyddol Siôn Corn yn lwyddiant ysgubol, gan ddod â hwyl yr ŵyl i deuluoedd ar draws ein cymuned. Teithiodd Siôn Corn ar ei feic modur gan ddosbarthu losin i bawb. Cefnogwyd y daith gan drigolion lleol, gyda nifer yn disgwyl yn eiddgar ar y strydoedd ac yn rhannu lluniau hapus ar Facebook, lluniau a adlewyrchai hud y noson.
Arddangosfeydd Planhigion
Ymfalchiwn yn yr arddangosfeydd planhigion sy’n blodeuo’n ardaloedd cyhoeddus ac yn harddi’r ardal. Bob blwyddyn mae ein tim yn gweithio’n galed i sicrhau bod gan ein hardal flodau lliwgar sy’n bywiogi’r lle.
Yn Ystalyfera, Godre’r Graig, Cilmaengwyn, ac wrth y Ffynnon yng Nghwmtwrch Isaf mae’r blodau yn dyst o’r gofal sydd gennym dros ein hamgylchedd. Ar ben harddi’r ardal maent yn cynnig croeso i drigolion ac ymwelwyr, fel ei gilydd.
Gosod Diffibriliwr Newydd
Wrth i ni fwrw ‘mlaen â gwella diogelwch y gymuned, rydym wedi gosod diffibriliwyr mewn lleoliadau allweddol o gwmpas yr ardal. Maent ar gael nawr mewn dau hen giosg ffôn yn Ystalyfera (ger y Wern Fawr ac ym Mhenyrallt) ac ar Lawnt Graig Newydd. Bydd diffibriliwr arall yn cael ei osod ar Heol Y Graig, Godre’r Graig, yn y dyfodol agos. Bydd yn sicrhau bod help ar gael o fewn tafliad carreg mewn argyfwng. Mae’r ddau diffibriliwr yma yn ychwnaegol at y ddau sydd gennym eisoes yn Ystalyfera RFC ac Ynysmeudwy AFC.
Gwella Offer yn ein Parciau
Rydym yn falch o sicrhau nawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i wneud gwelliannau yn ein parciau. Bydd llwybr pren newydd ym mharc Carreg-yr-Afon ac ychwanegir wal ddringo i Barc Heol y Gnoll. Gosodir yr offer cyffrous hyn yn ystod y Gwanwyn, gan gynnig mwy o gyfleoedd chwarae ac antur i blant ein cymuned.
Llifoleuadau ym MUGA Ystalyfera ac ym MUGA Ynysmeudwy FC
Rydym yn gyffrous am ddiweddaru goleuadau i lifoleuadau LED yn ein hardaloedd chwarae aml-ddefnydd (MUGAs) yn Ystalyfera ac Ynysmeudwy AFC. Mae’r gwelliannau yn gwella golau ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hwyrol ac yn help i leihau ein defnydd o ynni a gostwng costau.
Gwella Neuadd Gymuned Ystalyfera
Mae Cyngor Cymuned Ystalyfera yn ddiolchgar i Pathfinders Cymru am sicrhau grant o’r Gronfa Ardaloedd Twym gan y Cyngor Sir i ariannu cadeiriau newydd, mwy cyfforddus yn ein Neuadd Gymuned. Rydym yn bwriadu diweddaru’r neuadd trwy osod ffenestri newydd yn ystod y flwyddyn nesaf. Bydd y gwelliant yn gwella effeithiolrwydd ynni’r adeilad ac yn creu amgylchedd cysurus ar gyfer yr holl ddigwyddiadau cymunedol a gynhelir yno.
Cefnogaeth Grantiau
Rydym yn falch o fod wedi gallu cefnogi amrywiaeth o sefydliadau a digwyddadau trwy gyfrannu grantiau bach. Yn 2024-25 noddwyd:-
- Ystalyfera RFC
- Chunky 7s
- Ynysmeudwy AFC
- Godre’r Graig AFC
- Ysgol Gynradd Godre’r Graig (Digwyddiad Ymadael Blwyddyn 6)
- Ysgol Gymraeg Ystalyfera (Digwyddiad Ymadael Blwyddyn 6)
- Pathfinders Cymru
- Clwb Bowls Ystalyfera
- Ras Parc Ystalyfera
- Ambiwlans Awyr Cymru
- Tîm Cysylltu Cymunedol (Boreau Coffi)
- Elusen Morgan’s Army
Mae’r grantiau yma wedi helpu mentergarwch lleol a digwyddiadau sydd o les i’n cymuned. Rydym yn falch o gefnogi’r ymdrechion hyn.
Rydym yn annog sefydliadau lleol i geisio am grantiau bach sy’n ariannu prosiectau a mentergarwch sydd o les i’n cymuned. Os ydych yn rhan o gymdeithas lleol ystyriwch wneud cais cyn y dyddiad cau ym mis Gorffennaf. Mae’r grantiau yn gyfle gwych i sicrhau nawdd ar gyfer prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth. E-bostiwch ystalyfera@hotmail.com am fwy o wybodaeth.
Gweithio gyda Sefydliadau Lleol
Mae ein partneriaethau gyda sefydliadau lleol yn mynd o nerth i nerth, gyda chynlluniau ar y cyd i wella gwasanaethau a chefnogi’r gymuned. Eleni, cydweithiwyd gyda Pathfinders Cymru i ailagor ein llyfrgell – adnodd gwerthfawr i bobl o bob oed. Mae Pathfinders Cymru yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau yn y llyfrgell a’r neuadd, ac yn rhedeg y llyfrgell yn hynod effeithiol.
Cefnogi Ein Cymuned
Mae’r Cyngor Cymuned yn parhau i godi tâl bach ar eich treth cyngor lleol i dalu am wasanaethau a phrosiectau sydd o les i ni gyd. Mae’r arian yn cefnogi popeth – o weithgareddau cymunedol i wella adeiladwaith, gan sicrhau bod ein cymuned yn parhau’n ardal fywiog, diogel ac yn un y gallwn ymfalchio ynddi.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu argymhellion ar gyfer prosiectau newydd, cysylltwch â ni ar e-bost ystalyfera@hotmail.com neu ar y ffôn 07570 961946.
As we reflect on another busy and successful year, it’s clear that our community continues to thrive thanks to the dedication of local groups, organisations, and individuals. From commemorating important moments to enhancing our public spaces, here’s a look at some of the highlights from the past year.
Remembrance Sunday Ceremony & War Memorial Renovations
The Armistice Ceremony was a moving and well-attended event, with the community coming together to honour those who served and sadly lost their lives. Following the closure of the local British Legion branch, N & D Thompson kindly gifted the site to the Ystalyfera Community Council. We have taken over the responsibility for the Cenotaph site and we are currently exploring options for renovating and enhancing the area, ensuring it remains a fitting tribute to our local heroes for generations to come.
Christmas Lights & Decorations
This year, we once again provided the electrical Christmas lights throughout the area, including on Commercial Street and Gurnos Road in Ystalyfera, on small trees, signage, and large trees in key locations (old Godre’r Graig School, Graig Newydd Green, Cilmaengwyn, Penyrallt Park), ensuring the festive season sparkled for all to enjoy.
Additionally, we provided flags for St David’s Day celebrations and displayed poppies throughout the community to mark Armistice Day, continuing our commitment to honouring significant dates that are important to our local culture and heritage.
Santa Tour
The annual Santa Tour was a resounding success, bringing festive cheer to families across our community. Santa toured the area on his trike handing out sweets to all. The event was well-supported, with many lining the streets and sharing joyful photos on Facebook that captured the magic of the season. We are already planning for Christmas 2025!
Floral Displays
We take great pride in the floral displays we provide throughout our community, which help to brighten up our public spaces and contribute to the overall beauty of the area. Each year, our team works hard to ensure that our villages are adorned with vibrant, seasonal blooms that bring colour and life to our streets.
In Ystalyfera, Godre’r Graig, Cilmaengwyn, and at the Ffynnon in Lower Cwmtwrch, the floral displays serve as a reminder of the care and dedication we have for our environment. These eye-catching arrangements not only enhance the aesthetic appeal of our communities but also offer a warm welcome to residents and visitors alike.
New Defibrillator Installation
In our ongoing efforts to improve community safety, we have installed defibrillators in key locations around the area. These are now available in the two old phone kiosks in Ystalyfera (near the Wern Fawr and at Penyrallt) as well as on Graig Newydd Green. Additionally, a further defibrillator is soon to be installed on Graig Road, Godre’r Graig, ensuring that help is never far away in case of an emergency. These defibrillators have been added to the two we had already had at Ystalyfera RFC and Ynysmeudwy AFC.
Playground Equipment Improvements
We are pleased to announce that we have successfully secured funding from the National Lottery Community Fund for new playground improvements. A new timber trail will be installed at Carreg-yr-Afon Park, and a climbing wall will be added to Gnoll Road Park. These exciting additions will be installed this spring, providing even more opportunities for outdoor fun and adventure for children in our community.
LED Floodlights at Ystalyfera MUGA & Ynysmeudwy FC MUGA
We’re excited to have upgraded the lighting at the Multi-Use Games Areas (MUGAs) in Ystalyfera and Ynysmeudwy AFC to LED floodlights. This improvement not only provides better lighting for evening sports and activities but also helps us reduce energy consumption and lower long-term costs.
Ystalyfera Community Hall Upgrades
Ystalyfera Community Council is thankful to Pathfinders Cymru for securing the NPTCBC Warm Spaces grant to fund new, more comfortable chairs for our Community Hall. Looking ahead, we are planning to upgrade the hall by installing new windows in the coming year. This improvement will enhance the building’s energy efficiency and create a more comfortable environment for the many community events held there.
Who We’ve Supported with Grants
We’re proud to have supported a variety of organisations and events through our small grants program. In 2024-25, we provided funding to:
- Ystalyfera RFC
- Chunky 7s
- Ynysmeudwy AFC
- Godre’r Graig AFC
- Godre’r Graig Primary School (Year 6 Leavers Event)
- Ysgol Gymraeg Ystalyfera (Year 6 Leavers Event)
- Pathfinders Cymru
- Ystalyfera Bowls Club
- Ystalyfera Park Run
- Wales Air Ambulance
- Community Connector Team (Coffee Mornings)
- Morgan’s Army Charity
These grants have helped to fund important initiatives and events that benefit our community, and we’re proud to continue supporting these efforts.
We encourage local organisations to apply for small grants that help fund projects and initiatives benefiting the community. If you’re involved in a local initiative, please consider submitting an application before the July deadline. These grants are a great opportunity to secure funding for projects that make a real difference. Email ystalyfera@hotmail.com for more information.
Collaborating with Local Organisations
Our partnerships with local organisations continue to strengthen, with joint initiatives aimed at improving services and supporting the community. This year, we worked with Pathfinders Cymru to secure the reopening of our library—a valuable resource for people of all ages. Pathfinders Cymru are holding a variety of events and experiences at the library and hall and are running the library very successfully.
Supporting Our Community
As always, the Community Council continues to make a small charge on the local council tax to fund services and projects that benefit us all. This funding supports everything from community events to infrastructure improvements, ensuring that our area remains vibrant, safe, and well-maintained.
If you have any comments or suggestion for new projects, please get in touch with us via email ystalyfera@hotmail.com or phone 07570 961946.
